Eithafaeth e.g. 3 diwrnod ar y piss a hang ofyr uffernol heddiw
Ma ‘na luniau neis, a rheiny’n llawer haws i handlo na brawddegau llawn.
Oh what the hey…
Yn dilyn gig Cofi Bach, Optimis Prime a Dyl Bili Nos Wener ac yna’r Poppies, Tricky Nixon ac Ashokan Nos Sadwrn – daeth marathon o benwythnos i ben neithiwr gyda gig gan artistiaid amrywiol i godi arian ar gyfer apel y tsunami, yn y Toucan yng Nghaerdydd. Er i’r gig gychwyn tua 3 yn y prynhawn (o flaen cynnulleidfa ecsgliwsif o aelodau Kentucky AFC yn ôl y sôn… am frwdfrydedd!) ‘nes i ddim cyrraedd tan i’r Supernaughts ddod i’r llwyfan tipyn yn hwyrach. Chwarae teg iddyn nhw am gynnig set egniol dros ben, llawn caneuon bywiog â twists cerddorol reit neis. Odd gwylio’r boi keyboards wedi llwyr-ymgolli’n y gerdd a’n hymian y tiwns i’w hun yn y cefndir yn ddifyr hefyd.
Nesaf i’r llawr oedd Samba Galles a ‘s dim amheuaeth fod set gan rhain yn rhywbeth arbennig iawn. Ma rhyw swyn ynghylch y curiad samba sydd â’r grym i droi unrhyw gynnulleidfa apathetig yn dorf llwythol – falle odd hi braidd yn gynnar (a’n Nos Sul) i ‘r effaith yna llawn-dreiddio neithiwr, ond roedd ‘na fownsio amlwg ym mhob cwr o’r stafell a gwên ar wyneb pawb. Y Poppies oedd nesa ar y bill. Lwcus rili mod i’m yn cofio’u set nhw o Nos Sadwrn neu fyse peryg Poppies overkill, ond na – yr un effaith sy gan Sam a’r band arnai bob tro, sef argyhoeddiad llwyr fod y bois yma, gyda’u roc ffyrnig ac eto heulog (?!), yn gwybod yn union beth ba nhw’n gwneud. Mae’r perfformiad wastad yn tynnu ac yn hoelio sylw: y gerddoriaeth rymus, ewfforia amlwg y basydd ac showmanship Sam ei hun. Dwi am fentro lawr tangent am eiliad, ond ddalen i fod ffusto rhugl (o ma’r ymadroddion yn llifo heddio…) yn agos-ail ar y rhestr all-time-mesmerising-ffryntman-antics i’r siapau di-ri mae ceg Aron Pep le Pew yn llwyddo contortio wrth rapio… A-hem.
Reit, felly nôl a ni i’r pwnc dan sylw. Symudon ni lawr llawr ar ôl y Poppies, i glywed diwedd set Lowri Evans, ac yna Broken Leaf. Roedd hi’n awyrgylch mwy agos lawr staer, a caneuon swynol Rhodri Viney yn gweddi myfrdodau am ysbrydolaeth y gig, a’n gyflwyniad dda i’r act nesaf, sef Alun Tan Lan. Dyma’r fath o set sy’n hala llancesi diniwed i lewygu – ond gan fod dim o rheini allan neithiwr, gafon ni oll y pleser o fwynhau bob eiliad hyfryd. Ymunodd Gwyneth Glyn am rhyw dair cân, gan ychwanegu adlais dyner at lais breuddwydiol Alun. Ac yna, dyma Mattoidz yn cyrraedd, â Hefin yn y stad mwya’ amharchus o feddw i mi ei weld ers, wel… ers i mi weld ‘y’n hun yn y drych yn ystod oriau man bore Sul.
Ah wel, dim becs – fel y’n ni i gyd yn gwybod, ma ffryntman chwil ond yn adio mwy o gyffro at berfformiad band sy’n rocio gymaint a Mattoidz. Ar ôl i Brave Captain orffen set, dyma bois y gorllewin dod i’r llwyfan, a Delve y basydd yn diddanu’r gynnulleidfa am rhyw ddeg munud tra fod Hefin yn crwydro’r llwyfan â’i wyneb yn bictiwr o ddryswch. Chwarae teg – mae’n rhaid fod rhywun wedi spikeo diod Hefin âg ysbryd roc, achos odd y boi wedi’i feddiannu! ‘Sos Coch’ oedd yr uchafbwynt, a wedi hynny odd hi’n amser gwely i ferched cydwybodol fel myfi, felly ‘nes i’m dal perfformiad Heather Jones, na darganfod dros ‘y’n hun a oedd yr honiadau fod Meic Stevens ar ei ffordd yn wir (wy'n amau'n fawr...) Noson wych a difyr iawn.