y Tywydd
Hen ddywediadiadau a lluniau yn ymwneud â darogan y tywydd ar Cimwch.com:
Ym mhen gorllewinol Llŷn wrth i law trwm gilio o’r gorllewin gelwid y darnau o awyr las sy’n ymddangos yn "dyllau tinnau Gwyddelod."
Blog Gymraeg â bach o hyn, bach o'r llall...
Hen ddywediadiadau a lluniau yn ymwneud â darogan y tywydd ar Cimwch.com:
Ym mhen gorllewinol Llŷn wrth i law trwm gilio o’r gorllewin gelwid y darnau o awyr las sy’n ymddangos yn "dyllau tinnau Gwyddelod."
Dyna teitl y ffilm fer. Bach o cop out falle, ond gallai draethi am sut ma'r enw'n adlewyrchu agweddau 'lluosog'/dau-wynebog fy mhrif gymeriad os chi wir mo'yn cyfiawnhad. Neh? Fine.
Unrhyw gyfle i wisgo làn, ac mae Megs yn ecseitio’n lân! Mewn parti gwisg ffansi, hi sy'n mynnu sylw pawb wrth chwarae gêmau â’i gwesteion. Ond dyw cuddio tu ôl mwgwd ddim yn mynd i ddenu dyn ei breuddwydion; a dyw breuddwydio mewn gwely dieithr ddim yn ddigon i guddio realiti ei hunigrwydd. Mae’n bryd i Megs ddangos ei gwyneb, ac estyn allan i afael yr hyn mae wir mo’yn.Wedi cael cipolwg ar yr offline bore ddoe (h.y. y ffilm wedi ei olygu, ond heb ei ddybio'n iawn eto.) Mae'n plesio mwy nag o'n i'n ei ddisgwyl (ond roedd gen i ddisgwyliadau erchyll, chwarae teg!) Wy'n barod i ymlacio tipyn bach amdani - ond dim ond tipyn bach cofiwch.
Pleser mawr oedd gweld un mor gartrefol wrth berfformio, yn hawlio'r llwyfan a'n hoelio'n sylw tra'n gwneud i ni deimlo mai hen ffrind oedd yn canu cân i ni. Cafwyd sioe hyderus dros ben, fydd yn parhau i'm syfrdanu am wythnos neu ddwy mae'n siwr. Ma'r boi yn athrylith.
Cliciwch y ddolen i weld pa sarhad gewch chi.
SHEEP ENTERTAINING WILLY LOVE
Parti Penblwydd - teulu'n ymgasglu, i gyd er mwyn mamgu. Y bwyd yn dda, y gwin yn llifo a'r sgwrsio'n gwrtais, yn awgrym fod hyn yn achylsur blynyddol arbennig. Ond mae mamgu wedi bod yn ei bedd ers saith mlynedd. "Bwytewn a bwytewn i arbed distawrwydd....... yfwn i foddi'n cywilydd."
Bydd pob math o ddigwyddiadau i'w mynychu am ddim yn y ddinas dros y ddeufis nesa, gan gynnwys carnifal, gwyl bwyd a diod a gwyl ffilmiau. Un o'r attyniadau mwya fydd y Big Weekend (12-14 Awst) - bydd Criddle yn falch o glywed fod Chesney Hawkes wedi cadarnhau.
Iasu o'n i'n chwysu wrth dabblo 'da'r côds patrymlun - ond wy'n meddwl fydd hwn yn haws i ddarllen 'na'r hen beth tywyll 'na. Er, o'n i'n hoffi'r dots ar y llall.
Am 6.55 bore Sadwrn diwetha, dyma fi'n neidio ar dren i Lundain i fynychu cwrs undydd 'Right-Brian Scriptwriting' dan arweiniad Jurgen Wolff. Mae syniad Wolff yn deillio o dechneg seicolegol NLP, neu neuro-linguistic programming - sef yr ymgais i greu math o 'llaw-lyfr' neu 'rhaglen' i chi fedru deall a manipiwleiddio eich ymenydd. Yn yr achos yma - y nôd oedd defnyddio'r dechneg er mwyn bod yn well awdur, ond mae gan NLP amcanion amrywiol eraill, fel rhoi'r gorau i smygu, neu delio ag iselder o achos trauma personol.
...using NLP to find and discharge so called "negative blocks" can be very helpful. I remember when I was learning NLP, my teacher did a technique on me - one of the techniques from so-called NLP New Code (see books by Robert Dilts). It was the last thing for the day, class was over, so I said good bye and left. And then as I was walking towards my car I have noticed that I am a little bit jumping, you know. And laughing. And singing. Which is like totally not my style of walking, by the way. And for the next 30 minutes I felt better than ever in my life and I mean it. I - see, I am still smiling when I think about it.
Aaaaaaaaaaaaaaaarrrrrrrrrrrggggggghhhhhhhhhh!
6/27/2005
Cardiff, GB UKSt. David's Hall Rufus will be playing with the full band
Llaw lan pwy glywodd y stori am y ffrind trodd yn gariad, cyn troi cefn, cyn gofyn i fod 'yn ffrindiau' eto. Na? Dyw e ddim yn un da iawn. Ond eniwe, mae Ambrose Bierce yn un o'r awduron yna fydden i a'n 'ffrind' i wedi piso'n pants wrth ddarllen rhai misoedd yn ôl.* Dyma flas ar gynnwys 'The Devil's Dictionary':
ADMIRATION, n. Our polite recognition of another's resemblance to ourselves.
HEATHEN, n. A benighted creature who has the folly to worship something that he can see and feel.
POLITENESS, n. The most acceptable hypocrisy.
SAUCE, n. The one infallible sign of civilization and enlightenment. A people with no sauces has one thousand vices; a people with one sauce has only nine hundred and ninety-nine. For every sauce invented and accepted a vice is renounced and forgiven.
Hwn bydd yr Wyl Gerddorol di-Gymraeg cyntaf i mi ei mynychu - a wy methu aros! Llai na mis i fynd tan gweld Bright Eyes, Super Furries, Mylo, The Killers, Doves, Interpol, James Brown, Suzanne Vega, Biffy Clyro, KT Tunstall, Jaques le Cont, Engineers, The Go Team ('ond i enwi llond dwrn) oll yn fyw, yn yr haul, yn Iwerddon. Mae'r wyl 'di gwerthu allan ers pythefnos - felly neh-neh ne-neh-neh i unrhywun sy ddim yn mynd (Andrew ;D)