31.1.05

Eithafaeth e.g. 3 diwrnod ar y piss a hang ofyr uffernol heddiw

Ma ‘na luniau neis, a rheiny’n llawer haws i handlo na brawddegau llawn.

Oh what the hey…

Yn dilyn gig Cofi Bach, Optimis Prime a Dyl Bili Nos Wener ac yna’r Poppies, Tricky Nixon ac Ashokan Nos Sadwrn – daeth marathon o benwythnos i ben neithiwr gyda gig gan artistiaid amrywiol i godi arian ar gyfer apel y tsunami, yn y Toucan yng Nghaerdydd. Er i’r gig gychwyn tua 3 yn y prynhawn (o flaen cynnulleidfa ecsgliwsif o aelodau Kentucky AFC yn ôl y sôn… am frwdfrydedd!) ‘nes i ddim cyrraedd tan i’r Supernaughts ddod i’r llwyfan tipyn yn hwyrach. Chwarae teg iddyn nhw am gynnig set egniol dros ben, llawn caneuon bywiog â twists cerddorol reit neis. Odd gwylio’r boi keyboards wedi llwyr-ymgolli’n y gerdd a’n hymian y tiwns i’w hun yn y cefndir yn ddifyr hefyd.

Nesaf i’r llawr oedd Samba Galles a ‘s dim amheuaeth fod set gan rhain yn rhywbeth arbennig iawn. Ma rhyw swyn ynghylch y curiad samba sydd â’r grym i droi unrhyw gynnulleidfa apathetig yn dorf llwythol – falle odd hi braidd yn gynnar (a’n Nos Sul) i ‘r effaith yna llawn-dreiddio neithiwr, ond roedd ‘na fownsio amlwg ym mhob cwr o’r stafell a gwên ar wyneb pawb. Y Poppies oedd nesa ar y bill. Lwcus rili mod i’m yn cofio’u set nhw o Nos Sadwrn neu fyse peryg Poppies overkill, ond na – yr un effaith sy gan Sam a’r band arnai bob tro, sef argyhoeddiad llwyr fod y bois yma, gyda’u roc ffyrnig ac eto heulog (?!), yn gwybod yn union beth ba nhw’n gwneud. Mae’r perfformiad wastad yn tynnu ac yn hoelio sylw: y gerddoriaeth rymus, ewfforia amlwg y basydd ac showmanship Sam ei hun. Dwi am fentro lawr tangent am eiliad, ond ddalen i fod ffusto rhugl (o ma’r ymadroddion yn llifo heddio…) yn agos-ail ar y rhestr all-time-mesmerising-ffryntman-antics i’r siapau di-ri mae ceg Aron Pep le Pew yn llwyddo contortio wrth rapio… A-hem.

Reit, felly nôl a ni i’r pwnc dan sylw. Symudon ni lawr llawr ar ôl y Poppies, i glywed diwedd set Lowri Evans, ac yna Broken Leaf. Roedd hi’n awyrgylch mwy agos lawr staer, a caneuon swynol Rhodri Viney yn gweddi myfrdodau am ysbrydolaeth y gig, a’n gyflwyniad dda i’r act nesaf, sef Alun Tan Lan. Dyma’r fath o set sy’n hala llancesi diniwed i lewygu – ond gan fod dim o rheini allan neithiwr, gafon ni oll y pleser o fwynhau bob eiliad hyfryd. Ymunodd Gwyneth Glyn am rhyw dair cân, gan ychwanegu adlais dyner at lais breuddwydiol Alun. Ac yna, dyma Mattoidz yn cyrraedd, â Hefin yn y stad mwya’ amharchus o feddw i mi ei weld ers, wel… ers i mi weld ‘y’n hun yn y drych yn ystod oriau man bore Sul.

Ah wel, dim becs – fel y’n ni i gyd yn gwybod, ma ffryntman chwil ond yn adio mwy o gyffro at berfformiad band sy’n rocio gymaint a Mattoidz. Ar ôl i Brave Captain orffen set, dyma bois y gorllewin dod i’r llwyfan, a Delve y basydd yn diddanu’r gynnulleidfa am rhyw ddeg munud tra fod Hefin yn crwydro’r llwyfan â’i wyneb yn bictiwr o ddryswch. Chwarae teg – mae’n rhaid fod rhywun wedi spikeo diod Hefin âg ysbryd roc, achos odd y boi wedi’i feddiannu! ‘Sos Coch’ oedd yr uchafbwynt, a wedi hynny odd hi’n amser gwely i ferched cydwybodol fel myfi, felly ‘nes i’m dal perfformiad Heather Jones, na darganfod dros ‘y’n hun a oedd yr honiadau fod Meic Stevens ar ei ffordd yn wir (wy'n amau'n fawr...) Noson wych a difyr iawn.


27.1.05

Rhybudd: Ma'r siarc ar fin atgyfodi...



Wwwww y cyffro sy'n y llyfrgell 'ma!

Bydd copiau ar gael yn nosweithi Pictiwrs a'r Goat wythnos nesaf, a falle fydd un ney ddau gyda fi a'r Gwahanglwyf yn Abri nos Wener. Roll up roll up.

*jolch mowr i Nwdls am flogio'r llun ohmorcwl 'nes i nicko i 'neud y clawr. parch.

Lowri Evans a N.Y.R.D., Goat Major, 2/02/05

He he he, a Hefin Mattoidz sy'n trefnu...



...a fe 'nath y poster.

22.1.05

Postio mewn Posteri



11.1.05

Un bach arall yn sydyn...

Heia, jyst i atgoffa pawb fod y Clwb Cymraeg yr orsaf Radio GTFM (lle oedd Sleifar yn DJo gynt) yn dal i ddarlledu bob Nos Fawrth yn ardal Pontypridd ac ar y wê. Er sefyllfa anheg ymadawiad Steffan Cravos, mae'r rhaglen yn dal i haeddu ein cefnogaeth; mae'r cyflwynwyr newydd, wedi'r cyfan, 'ond yn gwneud eu gorau i barhau â gwaith Steffan o hyrwyddo'r iaith mewn ardal gymharol ddi-gymraeg. Mae'n werth gwrando wythnos nesa hefyd er mwyn clywed cyfweliad Edryd Vaughn â Gruff Rhys, ynglyn a'r albym newydd, 'Yr Atal Genhedlaeth', ac i glywed ambell gân o'r gampwaith.

Gallwch chi wrando o wefan yr orsaf, sef http://www.gtfm.co.uk/

Y Ffilm Fer (honedig) gan Dwlwen - Rhan 2 1/2

Ar ôl ceisio bob 'distraction technique' posib, 'nes i gyflwyno triniaeth y Ffilm fer, oedd yn peri bach o broblem i fi, just cyn Dolig - o. r. d. .i. .w. .e. .dd. Dyma chi bytyn o'r driniaeth - fel math syniad o'r hyn sydd angen ystyried cyn strwythuro ffilm fer.
Dehongliad: Mae’n stori am y panic llwyr o sylweddoli mai chi’ch hun sy’n gyfrifol am eich bywyd, mewn cyd-destun stori gariad. Mae am ddryswch merch di-gariad – a’i greddf mai’r ateb i’w dryswch yw dod o hyd i rhywun, unrhywun, i’w charu; felly ei modd o ddatrys ei hofn o fod yn annibynol, yw dibynnu – rhannu’r faich o gyfrifoldeb. Ond, mae’i dychymyg wedi argyhoeddi hon fod ‘cariad mawr’ yn bod – ac mae ganddi duedd anhwylus o gofio’r ddelfryd yna wrth godi mewn gwely dieithr y bore wedyn.

Pwy yw’r prif gymeriad?
Megs. Merch yn gymdeithasol yn ei ugeiniau cynnar. Mae ganddi gefndir o daflu’i hun i welyiau dynion, ac yna difaru – rhyw syniad ganddi nawr mai’r dynion anghywir/ adeg anghywir oedden nhw – yr oll sy angen arni yw dod o hyd i’r 'un'.


Beth yw nod y prif gymeriad?
Peidio bod ar ben ‘i hunan.
Cyrraedd y ‘Cariad mawr’ – bod gyda’r ‘un’.

Pam ei bod hi mo’yn hyn?
Efallai ei bod hi braidd yn ofn o’i hun – mae’n sicr yn well ganddi fod mewn torf na chwmni hi’i hun, ac mae’n cuddio tu nôl disgwyliadau ac ystrydebau eraill ohoni i raddau.

Beth yw’r rhwystrau sy’n sefyll yn ei ffordd?
Dyw hi ddim wir yn gwybod beth mae mo’yn. Mae’n taflu’i hun at sefyllfaoedd er mwyn gwneud, heb ystyried y canlyniadau tan rhy hwyr.

Pam fod hyn yn digwydd nawr?
Mae’n ddiwedd ar yr holl strwythurau gofalgar (teulu, ysgol, coleg) mae plant yn gyfarwydd â nhw.
Hwn yw dechrau ei ‘bywyd’ go iawn – mae ganddi swydd ddechau, a thŷ newydd. Ond, mae’n unig bod yn anibynnol

Beth yw’r gost moesol?
Cywilydd, a sylweddoli’r gwir ei bod hi’n fwy unig ym mreichiau dyn di-nod na byddai pe tai’n gwynebu hi’i hun.

Y cam nesa yw rhannu'r stori (os oes gynnych chi un!) i dair rhan -
Dechrau (lle mae'r prif gymeriad yn darganfod ei nôd)
Canol (lle maent yn sylweddoli'r nôd yna)
Diwedd (lle maent yn ymdopi â chanlyniadau'r gwireddiad.)

Nai'm mwydro pawb da'r stori gyfan, ond os gofiwch chi'r syniad wreiddiol o'n i'n ceisio'i ddatod, dyma sut mae'n eistedd, ar ddiwedd y ffilm, nawr.
Diwedd:
“Breuddwyd arall oedd hi - yn cuddio dan gynfas wen. Golau’r haul ar wely gwyn, yn goleuo dy gorff di wrth fy ymyl – dy gefn wedi troi. Allai gofio’r cyffro cyn i ti ddeffro; mil ar fil o frawddegau’n gwthio fel gwaed o gysgod calon i gefn fy ngwddf. Ond rwy’n cadw’n dawel i wrando ar donnau ysgafn dy anal. Yna’r tawelu, a’r cyfan yn toddi tu ôl curiad didrugaredd y glaw ar fore newydd. Syched boenus sy’n fy neffro. Mae’n fore arall, a breuddwyd arall oedd hi. Gwely arall yw hon.”

Mae Megs yn agor ei llygaid a’n gwenu wrth i rhywun gusanu ei gwddf. Mae ‘na law yn mwytho’i braich yn dyner, ac mae’r stafell yn gynnes dan olau llachar yr haul. Mae Megs yn troi i ateb y gusan, ond dim ond clustogau sy’ lle fu corff ei chariad. Mae’i gwen yn troi’n ochenaid ofnus wrth iddi chwilio am yr atgof yn ei gwely, ond does dim byd yna. Dim ond mwgwd yn gorffwys ar ei gobennydd.

Mae’n agor ei llygaid eto i weld y bore dan olau oeraidd y gaeaf, mae corff Mei wrth ei hochr a’i gefn wedi troi. Mae’n syllu arno am ysbaid, cyn crynnu a troi’i chefn hi hefyd.Toc, mae’n egluro i’r gyrrwr tacsis pa heol adre fysai orau – mae’r gyrrwr tacsis yn egluro fod hi’n siarad trwy’i thin “Confused is it? Three pick-ups this morning, all just as ‘confused’ as you...”


Mae'n ddechrau o leia, a wy bach yn gliriach o be wy mo'yn dangos diolch byth! Y cam nesa yw i ddrafftio'r sgript - hynny yw strwythuro'r stori sy gen i rhyw 10 golygfa, neu 'cam', sy'n penodi taith Megs: yr hyn mae mo'yn, a'r hyn mae'n ei ddysgu.

Fory falle...

Pheeeeeew

Wel, mae wedi bod yn gychwyn annisgwyl o brysur i'r flwyddyn newydd chez Dwlwen, felly ymddiheuriadau'n gyntaf am dawelwch (gymharol) fy mysedd bach ar yr bysellfwrdd, a'n ail am y llithoedd driblus sy'n bownd o ddilyn!

Rrreit te, 'nai ddechrau drwy sôn am be wy 'di bod wrthi a lle wy arni - er lles fy nghof i gymaint a'ch diddanwch chi, felly chi 'di'ch rhybuddio.

Ar ôl rhyw 8 mis yn gweithio fel ymchwilydd, daeth contract y gaethes fach i ben jyst cyn Nadolig, felly o'n i braidd yn betrus ddechrau'r flwyddyn, yn bennaf am fod dim arian yn dod mewn ond hefyd am 'mod i wedi dod yn ddibynol braidd ar fy ngweithle fel modd o gynnal y 'prosiectau all-gyrsiol' ma wy di'u mabwysiadu a'u meithrin dros y misoedd diwetha... O'n i'n amau fyse trefnu gigs, cwis a gwefan 'bach yn anodd heb y rhyddid mynediad i'r wê oedd y swyddfa'n 'i gynnig - diolch byth am lyfrgelloedd yfe. Falle mod i'm cweit mor wybodus am ddatblygiadau Garej Dolwen ag odd 8 awr ddyddiol o Maes e 'n ei ganiatau - ond hei ma rhaid i ni gyd 'neud aberthion. Eniwe, dwy heb weld ei eisiau gymaint ag o'n i'n disgwyl - ac er mod i'n teimlo bach yn euog am gynlleied o gyfraniad wy 'di 'neud i wefannau fel Pictiwrs ac Unarddeg yn ddiweddar, wy'n addo AR FY LLW(y/ lletwad) i 'neud ymdrech arbennig unwaith i fod Siarc Marw a'r llu brosiectau eraill allan o'r ffordd...

So dyna ni ddatblygiad #1 Siarc Marw (Siarcus Moria) Mae'r Bachgen o Bontllanfraith wedi dweud hen ddigon am ei ffansin gelfyddydol newydd ar ei flog - felly doswch yno i weld ei gynlluniau, ac yna gyrrwch eich cyfeiriad e-bost i siarcmarw@yahoo.co.uk a 'newn ni archebu copi i chi, a'i ddanfon yn rhad ac am ddim dechrau'r mis nesaf.

Mae datblygiad #2 yn arwain 'mlaen o'r gweithdy sgriptio fynychais i Hydref diwetha, a'r triniaeth ffilm fer gafodd 'i dderbyn gan y cynhyrchwyr wythnos diwetha (mwy i ddilyn am 'wnna...) Yn fras, mae Cwmni Opus wedi derbyn comisiwn i gynhyrchu 7 ffilm fer - mae'r cyntaf o rhain yn yn mynd i gael ei ddatblygu o syniad wreiddiol gan un o ddisgyblion Ysgol Llanhari - a pwy sy'n cael helpu datblygu'r syniad? Hmmm, yup, fi! Ar ôl gweithdy yn yr Ysgol ddoe, bydda i a Mistar Phillips o Opus yn mynd ati wythnos nesaf i sgwennu rhywfath o sgript... Mae'r disgyblion llawer hapusach wrth weithio felly yn hytrach na'n byrfyfyrio, felly er bo ni'n gobeithio fydd y ffilm orffenedig yn eitha rhugl o rhan deialog, mae angen cadarnhau'r camau cyn disgwyl i'r prif-gymeriadau fagu'r hyder i ddatblygu o'r man cychwyn yna... Ni'n gobeithio ffilmio ar ddiwedd y dair wythnos. Cyffrous iawn, ac eto gulp.

Felly dyna sy'n dwyn fy amser dyddiau 'ma ar y cyfan - mae'n werth cofio hefyd am y noson Pictiwrs yn y Pyb sydd ar y gweill a Chwis Dafarn Ionawr - SY' NOS FORY! Dyna ni â'r bwletin am y tro, bicai nôl â stwff mwy penodol yn y fan.

Cheerio

*m

5.1.05

Plant y Tsunami

Ma 'na ddolen uchod i wefan sy'n postio lluniau o blant sydd wedi eu amddifadu yn ystod y drychineb yn Asia yn y gobaith y bydd rhywun sy'n eu gweld yn gallu eu ad-uno a'u teuluoedd. Gyrrwch y ddolen i gymaint o bobl a phosib os gwelwch yn dda.
Dyma'r ddolen eto: http://www.phuket-inter-hospital.co.th/boy.htm

4.1.05

12/01/2005 - Cwis Ionawr

31/12/04 - Nos Calan yng Nghlwb Ifor Bach



29/12/04 - Gig Llithfaen

Wel am gyffro! Do’n i eroied ‘di bod i Ben Llyn o’r blaen, heb son am balas mawreddog Sioni Size yn Llithfaen, felly doedd hyd yn oed y daith bedair awr dan effaith hang ofyr gig mwya meddw’r flwyddyn (i fi, a dim lot o neb arall gwaetha’r modd)* ddim cweit yn ddigon i ddiflasu’ngobeithion o’r gig yma. Bant a ni, yn deulu DIY o’r Maes - â Mami Gwahaglwyf a Dadi a Cynyr yn y blaen, â’r plant drygionus ‘ny bac – oll yn ysu’n arw i weld oedd y North ma’n driw i’r ddelfryd... A be gafon ni? Hen dywydd llwyd a Huw Chiswell ar y radio – ah well, roedd yr hwyl dal i ddod. Mae’n rhaid canmol yr holl artistiaid fu’n perfformio yn Nhafarn y Fic; er diffyg gigio dros y flwyddyn ddiwetha, roedd Mwsog wir yn anhygoel o swynol, â’r gân ‘Sapporo’ yn coroni eu perfformiad hyfryd. Alun Tan Lan a Gwilym Morus ddaeth i’r llwyfan nesa – roedd gan y ddau gymysgedd o ddeuawdau a chaneuon adnabyddus oddiar ar eu albymau unigol adnabyddus – a’r cyfan oll yn wych. Eto, ro’n i wrth fy modd, ac wedi gwirioni’n edrych mlaen i glywed Acoustique eto, gan i mi golli eu perfformiad yn y Goat yn Awst, a theimlo fod yr awyrgylch braidd yn amhersonol pan i mi eu gweld nhw yng Nghlwb Ifor ddiwedd yr Haf. Roedd hi’n addo clo perffaidd i un o gigiu gorau’r flwyddyn... Oooond, pan fod pethau’n argoeli mor dda, mae’n draddodiad fod rhywun am chwalu’r hwyl i bawb – cue’r ffeit mwya swreal i mi ei dystio erioed: Sioni Size vs Hics Pen Llyn. Duw a wyr beth yn union ddigwyddodd – am fy mod i, y ffwl wyf i, actiwli’n gwrando ar y gerddorieth ‘r adeg yma, a fan’na arhosais i, yn disgwyl i Lleuwen a’r band ail-ddechrau, gan mai ond 2 gân a hanner o’n ni ‘di’u cael... Mae’n siwr odd hi tua deg munud yn hwyrach a minnau’n mentro allan (roedd y sgarmes wedi’i all-gyfeirio o’r dafarn tua pum munud yn gynharach) a’r oll wy’n cofio yw’r wên syn ar wyneb Cynog, wrth iddo gyflwyno’r teilchion arferai fod ei sbectol. Debyg mai nid Sioni oedd yn drech though... who’d’ave thought?! Awww, ond roedd y gig ma’n sicr yn brofiad – a’n hwyl ar hynny! Diolch o galon i Sioni am yr atgofion – gobeithio fod dy gleisiau’n gwella ; )

28/12/04 - Ashokan, Mattoidz, Gillespie

Bu Ashokan, Mattoidz a Gillespie’n diddanu ni draw yn y Quins yng Nghaerfyrddin ar yr 28ain – mae’n debyg gafodd y cyffro o fod nôl yn y dre a phris anghredadwy o rhad y fodka effaith rymus ar fy ymddygiad... a’ng nghof. Nid mod i eisiau cofio – mae’r manylion eisioes wedi’u gwthio’r i berfeddion fy meddwl, lle maent yn aros yn eiddgar am noson debyg arall o gam-fihafio meddwol i chwalu’r celloedd sy’n eu dal yn rhacs... yn fuan, plis.

Gwd show 'r un fath though.