Parti
Blog Gymraeg â bach o hyn, bach o'r llall...
Hello all - Just a quick hello to let you all know that Cyprus is great and as I suspected it looks highly unlikey I'll be gracing British shores again anytime soon...Eh??
...P.S. anybody who didn't know (just occurred to me) I have gone to live in Cyprus, and it's really rather nice.Ah. Ta ta dden.
Lord Byron gets up at two. I get up, quite contrary to my usual custom . . . at 12. After breakfast we sit talking till six. From six to eight we gallop through the pine forest which divide Ravenna from the sea; we then come home and dine, and sit up gossiping till six in the morning. I don't suppose this will kill me in a week or fortnight, but I shall not try it longer. Lord B.'s establishment consists, besides servants, of ten horses, eight enormous dogs, three monkeys, five cats, an eagle, a crow, and a falcon; and all these, except the horses, walk about the house, which every now and then resounds with their unarbitrated quarrels, as if they were the masters of it. . . .
[P.S.] I find that my enumeration of the animals in this Circean Palace was defective . . . . I have just met on the grand staircase five peacocks, two guinea hens, and an Egyptian crane. I wonder who all these animals were before they were changed into these shapes.
Ma'r Efengyl yn blaguro, bois. Lot o stwff
Daeth gwrthwynebiad y datblygiadau i'r golwg yn dilyn datganiad yn y wasg gan y Cyngor fod Llanelli'n "...edrych yn bert...". Mewn ymateb cyflum, ond ffiaidd, aeth trigolion yr ardal (sy'n gwybod nad yw Llanelli'n bert) ati i ffurfio'r grwp pwysedd "Turks Keepin' Llanelli Like It Is" - sydd wedi dechrau taflu eu slops ar y stryd mewn protest. "Dyma'r unig ffordd y medrwn gadw Llanelli fel y mae...i bobl Llanelli" dywedodd llefarydd ar ran y grwp.
Oherwydd anghysondeb i nodau ac amcanion y grwp pwysedd newydd, ni wyr Cyngor Sir Gar pwy na beth i alw'n bert neu'n salw bellach, gydag un cynghorydd o'r cabinet yn honni bod Meryl Gravell yn "...sexy biatch". Ie, Meryl o'dd honno
Sori am y prinder postau diweddar - wy 'di bod yn brysur gyda gwaith (am unwaith) wrth i ni nesau at ddiwedd y gyfres o ffilmiau bach ry'n ni'n datblygu. Byddai'n llwytho lluniau o'r camera yn y fan, ond am y tro dyma grybwyll dwy ddogfen anhygoel i mi weld yn ddiweddar. Y cyntaf yw Stuff the World, dderbyniodd adolygiad ffafriol heddiannol yn y Times. Dyma'r blyrb blyrbiais ar maes-e gynne...
rhaglen ddifyr a teg dros ben am taxidermists sy'n ceisio am wobrau ym Mhencampwriaeth y Byd yn Springfield, Illinois. Mae'n anodd dros ben i mi ddeall meddylfryd sy'n mynnu lladd anifail er mwyn "ei gadw'n fyw am byth" ond roedd hi'n braf gweld cyflwyniad gwrthrychol o'r unigolion sy'n gwneud, a'u rhesymau dros ddechrau. Roedd ambell i bortread - megis y ferch 9 oed yn saethu a 'mountio' ei charw cyntaf - yn anodd i wylio, ond cyd-bwyswyd hynny â troedigaeth rhyfeddol y cyn-Bencampwr Byd, Matthias, ar ôl lladd pysgodyn yn ddamweiniol:Yr ail yw Wisconsin Death Trip, sef cofnod o hanes brawychus ardal fechan o Wisconsin, Black River Falls, wrth i nifer o drigolion y dref ymddatod yn llwyr.
“I am looking at this fish, and he is looking at me and demanding pity. ‘What did I did to you? Let me live.’”
Pan nad o'n i'n rhyfeddu'n gegrwth, ro'n i'n chwerthin hyd dagrau - os oes ail-ddarllediad, gwyliwch da chi!
Lluniau MiriMadog. Cerwch draw at Photobucket, enw: byw, cyfrinair: byw, wedyn cliciwch ar yr albym 'MiriMadog 05'. Gwd.
Ddim cweit mor spontaneous a blwyddyn diwetha, a tipyn mwy meddw - felly penwythnos eitha rhyfedd ar y cyfan. 'Nath hi biso glaw yr holl ffordd lan, cyn disgleirio haul unwaith i ni gyrraedd Port. Ges i wîn coch a wedyn vodka - sy' byth yn syniad call, ac o achos hynny llai'm cofio fawr o ddim ar ôl Ashokan. Roedd Radio Luxembourg yn wych - wy'n cofio hynny. Ond dyna ni rili... ma 'na luniau ar y ffordd (o Zabrinski a Topper - sai'n cofio gweld Zabrinski na Topper - a close-ups o Alun Tan Lan a Meilyr RL - sy'n meddwl bo fi 'di siarad â nhw yn fy meddwdod, aaghchurgh...) Ta beth, ddewn nhw yn y fan - detox am y tro.
All religions, nearly all philosophies, and even a part of science testify to the unwearying, heroic effort of mankind desperately denying its contingency.
Llai'm ffeindio unrhyw linc i gefnogi hyn, ond wy'n eitha sicr i mi ddihuno bore ddoe i glywed per-lais Caryl Parry Jones yn canu Penblwydd Hapus i BB Aled ar rhaglen Chris Moyles. Parhaodd y nobyn Moyles i ddilorni'r Gymraeg yn gyffredinol, tra fod Aled yn chwerthin yn ferchetaidd a minnau'n ymgolli mewn breuddwyd am trip bws i Aberystwyth a chinio i'r henoed yn y Llety Parc. All rhywun hollti'r gwir o'r ffantasi?
Blogyn bach disylwedd heddi sori - ond wy 'di blino gormod i feddwl go iawn ers 'Steddfod, a'n cadw'r syniadau gorau ga'i (wel, yr unig syniadau ga'i) am y rhestr fach Cynhwysion Siarc Marw #3 (oce Criddlyn?) Ta beth, yr oll wy am 'neud nawr yw cymryd stoc o'r holl gerddoriaeth anhygoel wy 'di dod ar 'i draws dros y misoedd diwetha. Gwae chi Amazon, Fopp a Steddfod... ond diolch 'r un fath am y tiwns hyfryd.
Braf iawn yw dweud fod gen i gofnod gwell na'r brychni ar fy mochau. Wele llwythi o luniuau (llawer mwy na gai arddangos yn Flickr) draw yn y bwced luniau. Os am weld y cwbl lot, mewngofnodowch dan yr enw 'siwrcmarw' a'r cyfrinair 'lluniau'.
Tua dair wythnos yn ôl priododd fy nghefnder o Gilgerran yn Llanybydder, yna cafwyd cinio yng Ngwbert. Diwrnod braf dros ben - piti 'mod i mor hynod o hwyr yn sôn am hyn, ond gwell hynny na hwyrach. Ma mwy o luniau draw yn y cyfri' Flickr...